Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 yn mewnosod darpariaeth drosiannol yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)         ***

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([2]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

2. Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014([3]), ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE

15.—(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) yn unol ag Erthygl 7(4), neu Erthygl 36(2)(a) neu (b) o FIC—

(a)   pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a roddwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael; a

(b)   pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio ag FIC fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael.

(2) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau a ddelir gan berson o fewn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael gael eu disbyddu.

(3) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) yn unol ag Erthygl 7(4), neu Erthygl 36(2)(a) neu (b) o FIC—

(a)   pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a roddwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael ac yn dod i ben â diwedd y cyfnod perthnasol;

(b)   os nad yw’r cynnyrch penodedig yn gynnyrch y mae paragraff (1) yn gymwys iddo; ac

(c)   pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio ag FIC fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael.

(4) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau a ddelir gan berson ar y diwrnod ymadael gael eu disbyddu.

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd;

ystyr “cynhyrchion gwin” (“wine products”) yw cynhyrchion y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol yn gymwys iddynt;

ystyr “cynnyrch penodedig” (“specified product”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol a roddir ar y farchnad yn gyfreithlon ac sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwyntiau 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwyd([4]), fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).”

 

 

 

Enw

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



 



([1])           2018 p. 16.

([2])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1.

([3])           O.S. 2014/2303 (Cy. 227), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           OJ Rhif L 179, 19.6.2012, t. 36.